Ni chaiff fod eisiau byth na thrai, Tra seren yn y nef, Ar neb o'r rhai a ro'nt eu pwys Ar ei gyfiawnder Ef. Mae'i drugareddau, yn ddiball, Yn llanw'r ddaear faith; Nid oes na dyn na dawn, a all Eu dweyd na'u rhifo chwaith. Doed y trueiniaid yma 'nghyd Yn lluoedd heb ddim rhi', Cânt eu diwalla oll yn llawn O ras y nefoedd fry. O gâd im' brofi'th nefol hedd Yn mhob anadliad pur; Ac felly myn'd o'r byd i'r bedd Mewn hûn nefolaidd wir.1,3,4: William Williams 1717-91 2 : Morris Davies 1796-1876
Tonau [MC 8686]: gwelir: O Arglwydd Iôr nawdd dynolryw Tad pob trugaredd Arglwydd byw Ymhlith holl ryfeddodau'r nef |
There shall be no need ever, nor ebbing, While there is one star in heaven, On any of those who lean On His righteousness. His mercies, unfadingly, are Flooding the vast earth; There is neither man nor gift, which can Tell them nor number them either. Let the wretches come here together In hosts without any number, They may all get the outpouring fully Of the grace of heaven above. O let me experience thy heavenly peace In every pure breath; And thus go from the world to the grave In true heavenly sleep.tr. 2015,16 Richard B Gillion |
|